'Dechrau'r sgwrs' i gael gwared ar y stigma am broblemau dal dŵr

I rai menywod fe all ddigwydd wrth ymarfer corff, i eraill wrth chwarae gyda'r plant, ond i lawer mae'r stigma o fethu â dal eich dŵr oherwydd pwysau ar y bledren yn golygu nad yw'n cael ei drafod.

Nawr mae'n bryd i hynny newid, yn ôl aelodau o dîm hyfforddi rygbi Cymru.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi bod yn codi ymwybyddiaeth ymhlith y garfan gyda sesiynau ac ymarferiadau penodol, gydag aelodau o'r tîm hyfforddi wedi bod yn gweithio ar faterion iechyd sy'n effeithio menywod yn benodol.