Strategaeth yn rhoi gobaith i gefnogwyr ynni niwclear
Mae strategaeth diogelwch ynni Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi codi gobeithion cefnogwyr atomfa newydd ar Ynys Môn.
Mae'r cynllun yn awgrymu cynyddu'r defnydd o ynni niwclear, gyda safle Wylfa yn cael ei grybwyll yn benodol.
Cynyddu hefyd mae'r targedau o ran ynni gwynt, hydrogen ac ynni solar - gydag un cwmni yn dweud bod hynny'n cynnig cyfleoedd mawr i Gymru.
Dywed gwrthwynebwyr ynni niwclear bod trywydd y strategaeth yn eu "ffieiddio".
Ond yn ôl Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, David TC Davies, mae'r diwydiant niwclear yn cynnig swyddi da ac fe allai'r strategaeth fod o gymorth i'r iaith Gymraeg.