James: Helen Ward yn 'haeddu pob clod' cyn 100fed cap
Angharad James sy'n canmol ei chyd-chwaraewr, Helen Ward, ar drothwy ei chanfed cap.
Ers i James gychwyn gyda charfan Cymru yn 17 oed, dywedodd bod Ward wedi bod yn gefn mawr iddi.
Wrth i Gymru herio Ffrainc nos Wener, bydd Ward - a'r tîm - yn gobeithio y bydd hi'n gallu cyrraedd y 100.
Gwyliwch Cymru v Ffrainc yn fyw ar Cymru Fyw, gyda'r gic gyntaf am 19:45.