'Pwysig iawn' cael banciau llaeth y fron yng Nghymru
Mae'r unig fanc rhoddion llaeth o'r fron yng Nghymru i fabanod sydd yn cael eu geni yn sâl iawn neu yn gyn-amserol wedi agor yn Ysbyty Singleton Abertawe.
Bydd yn helpu teuluoedd yn y de-orllewin yn bennaf ond fe fydd y llaeth ar gael i fabanod ar hyd a lled Cymru os bydd angen.
Bydd y gwasanaeth hefyd yn helpu mamau sy'n wynebu problemau bwydo o'r fron.
Cyn y datblygiad yma roedd y llaeth yn cael ei gyflenwi gan fanciau llaeth yn Lloegr.