Natasha Harding: Ennill 100fed cap yn 'foment llawn balchder'

Fe fyddai ennill 100 cap i Gymru yn "foment llawn balchder," yn ôl y pêl-droediwr Natasha Harding.

Bydd Cymru yn wynebu Kazakhstan ddydd Mawrth mewn gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd Merched FIFA 2023.

I Harding, bydd yn gyfle i ennill ei 100fed cap dros Gymru.

"Byddai'n foment llawn dagrau - ond dagrau hapus dwi'n meddwl!

"Mae'n siom bod teulu fi ac Emily ddim allan yma, ond byddan nhw'n gwylio ac wedyn byddwn ni'n cael dathliad pan dwi'n cyrraedd gartref."

Loren Dykes, Jess Fishlock, Sophie Ingle, Gareth Bale, Chris Gunter ac, o fewn y mis diwethaf, Wayne Hennessey a Helen Ward ydy'r unig chwaraewyr eraill i gynrychioli Cymru 100 o weithiau.

Bydd modd gwylio gêm Cymru a Kazakhstan ar BBC Cymru Fyw am 14:00 ar 12 Ebrill.