Dychwelyd i'r nyth wedi niwed i'w adenydd

Mae partner un o weilch bridio Glaslyn wedi dychwelyd i Gymru.

Cyrhaeddodd Aran y nyth ym Mhont Croesor, ger Porthmadog brynhawn Sul ac roedd hynny yn rhyddhad mawr i wirfoddolwyr Gweilch Glaslyn oherwydd y niwed a gafodd i un o'i adenydd y llynedd.

Roedd ei bartner, Mrs G, sef gwalch bridio benywaidd hynaf Cymru, eisoes wedi cyrraedd nôl o'i mudo bythefnos yn ôl.

Credir fod Aran tua 10 oed.

Mae o a Mrs G mae wedi magu 15 o gywion gyda'i gilydd ers 2015.