Dwy Gymraes yn helpu dioddefwyr PTSD Wcráin
Mae dwy Gymraes yn arwain tîm rhyngwladol i gynnal sesiynau dros y we i helpu pobl Wcráin ddelio gydag effeithiau seicolegol y rhyfel.
Mae Dr Lisa de Rijk a Rhian Price yn gwnselwyr seicotherapi proffesiynol sy'n arbenigo mewn triniaeth gafodd ei datblygu i helpu dioddefwyr PTSD yn dilyn ymosodiadau terfysgol 9/11 yn Efrog Newydd.
Nawr maen nhw a chyd-weithwyr yn gwirfoddoli i hyfforddi cwnselwyr Wcráin yn y dechneg arloesol, gyda rhai ohonyn nhw yn barod wedi dechrau helpu eu cyd-wladwyr i ddelio gydag effaith trawma ar eu hiechyd meddwl.
Maen nhw'n dweud eu bod wedi eu syfrdanu gyda'u hymroddiad ar ôl i un fenyw wneud rhan o'r cwrs yn ei char wrth iddi ffoi o'i gwlad i'r Swistir, ac un arall yn gwrthod gadael sesiwn Zoom i fynd i loches bomiau.
Rhian Price fu'n rhannu'r hanes gyda BBC Cymru.