Ailagor siambr gudd o dan y Llyfrgell Genedlaethol
Mae siambr gudd o dan un o sefydliadau mwyaf adnabyddus Cymru wedi ailagor i'r cyhoedd am y tro cyntaf ers tua ugain mlynedd.
Cafodd y twnnel ei adeiladu ar ddiwedd y 1930au fel cuddfan i gasgliadau pwysicaf Cymru wrth i fygythiad lluoedd yr Almaen dyfu.
Ymhlith y deunydd gafodd ei gadw yna oedd Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Gwyn Rhydderch a chasgliad Peniarth.
Mae'r twnnel wedi agor eto am y tro cyntaf ers 1993 fel rhan o brosiect cymunedol gan Brifysgol Aberystwyth.