Pwyllgor San Steffan am warchod dylanwadwyr a'u cynulleidfa
Mae un o bwyllgorau San Steffan yn galw am ddeddfwriaeth ym maes diwylliant dylanwadwyr - maes lle mae pobl yn ennill arian drwy'r hyn maen nhw'n ei wneud ar wefannau fel TikTok ac YouTube.
Mae pwyllgor Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) am weld deddfwriaeth newydd a fyddai'n gwarchod y rhai sy'n ymddangos - gan gynnwys rheolau ar oriau ac amodau gwaith.
Mae gan y pwyllgor hefyd nifer o bryderon am les y rhai sy'n edrych ar y gwefannau - gan amlaf plant a phobl ifanc - a dywed yr aelodau ei bod yn hynod bwysig bod gwylwyr yn ymwybodol o ddeunydd hysbysebu a negeseuon niweidiol.
Un o sêr ifanc TikTok yn y Gymraeg yw Lewis Owen, ac wrth siarad ar Dros Frecwast dywed mai'r hyn sy'n bwysig yw sicrhau cydbwysedd.