Menyw o gefndir du yn ennill Miss Cymru am y tro cyntaf

Darcey Corria sydd wedi ennill tlws Miss Cymru 2022 - y fenyw gyntaf o gefndir du i'w hennill ers sefydlu'r gystadleuaeth 70 o flynyddoedd yn ôl.

Mae Ms Corria o'r Barri yn 21 oed ac yn dod o deulu sydd a'i wreiddiau yng Nghymru a'r Caribî.

Cyn y gystadleuaeth, y sylwebydd Melanie Owen a'r hyfforddwraig ym myd pasiantau, Emma Jenkins fu'n rhannu eu hargraffiadau am hanes y gystadleuaeth a'r effaith y byddai llwyddiant Ms Corria yn ei gael ar ferched du yng Nghymru.