Ehangu Senedd Cymru: Y farn ym Machynlleth

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi dweud y dylai fod gan Senedd Cymru 96 o aelodau.

Maen nhw am i'r Senedd gael ei diwygio cyn yr etholiad nesaf yn 2026, "hyd yn oed os bydd rhai o'r newidiadau'n cael eu cyflwyno dros dro".

Pe bai'n dod i rym, byddai'r system cyntaf i'r felin - sy'n cael ei defnyddio i ethol 40 o'r 60 Aelod o'r Senedd - yn cael ei dileu.

Mae'r farn yn gymysg ymysg pobl ym Machynlleth, gyda rhai yn dweud bod angen mwy o aelodau i gael gwell cynrychiolaeth ac eraill yn dweud bod digon o aelodau yno'n barod.