Gŵyl Fwyd Caernarfon: 'Mae pobol 'di bod yma ers ben bore'

Mae degau ar filoedd o bobl wedi ymweld â chanol Caernarfon yn ystod y dydd wrth i'r dref gynnal yr Ŵyl Fwyd flynyddol am y tro cyntaf ers cyn y pandemig.

Fe dywynnodd yr haul wrth i bobl gael blas ar gynnyrch dros 130 o stondinwyr a mwynhau adloniant ar y Maes, y cei a strydoedd cyfagos.

Ar drothwy'r ŵyl, fe ddywedodd y trefnwyr bod yr argyfwng costau byw cyffredinol wedi ychwanegu at heriau adfer y digwyddiad, ond eu bod yn hyderus y byddai pobl yr ardal yn ei gefnogi.

Nici Beech yw cadeirydd pwyllgor yr ŵyl.