'Anodd ar siopau sglodion wrth i brisiau ddyblu'
Mae pryderon am ddyfodol nifer o siopau sglodion yn y DU wrth i brisiau nwyddau hanfodol godi yn sgil ymosodiad Rwsia ar Wcráin.
Yn ôl y corff sy'n cynrychioli'r diwydiant - The National Federation of Fish Friers - dyma'r argyfwng gwaethaf erioed iddyn nhw ei wynebu.
Wrth siarad ar Dros Frecwast dywedodd Wyn Williams, perchennog siop Tir a Môr yn Llanrwst, bod pris olew blodau haul a physgod bellach wedi dyblu ac yn prinhau.
Wrth i bris tanwydd godi hefyd a'r orfodaeth i dalu mwy i staff yn sgil prinder, dywed ei fod yn rhagweld "problemau mawr ymhen chwe mis".