Beth ydy statws y Faner Las i draethau?
Bydd y Faner Las, sy'n gwobrwyo ansawdd eu dŵr a'u diogelwch, yn hedfan uwchben 20 yn llai o draethau Cymru na'r llynedd.
Sefydlwyd cynllun y faner yng Nghymru yn 1988, ac i'w hennill mae'n rhaid cynnal safonau ansawdd dŵr, ymwybyddiaeth amgylcheddol, rheolaeth a gwasanaethau.
Ond tra llwyddodd 50 o draethau i sicrhau'r faner yn 2017, erbyn hyn mae'r ffigwr ar draws Cymru wedi haneru bron i 25.
Dywedodd Cadwch Gymru'n Daclus, sy'n gweinyddu'r cynllun rhyngwladol yng Nghymru, bod y gweithgor rhyngwladol wedi sefydlu gofyniadau ychwanegol ynglŷn ag asesiadau risg.
Y gobaith, medden nhw, yw ailsefydlu'r Baneri Glas yn y traethau yna maes o law.
Ond beth yn union ydy statws Baner Las? Richard Thomas o Cadwch Gymru'n Daclus fu'n egluro ar draeth Llangrannog.