Iechyd meddwl: Codi ymwybyddiaeth ar ôl colli mab
"Os ma' rhywun mewn lle tywyll, 'dyn nhw ddim yn meddwl bod neb yn caru nhw neu'n poeni - ond ma' nhw."
Ar ôl colli eu mab Josh yn 2016, mae teulu wedi bod yn codi arian ac ymwybyddiaeth am iechyd meddwl.
Mae tad Josh, Dion Llwyd-Hopcroft, wedi cerdded llwybr yr arfordir, a nawr mae'r teulu yn cydweithio gyda'r seiclwr Chris Hall i godi arian.
Maen nhw hefyd wedi sefydlu Prosiect Goleudy Josh - gofod i bobl sydd wedi colli anwyliaid i hunanladdiad.
Dywedodd Mr Llwyd-Hopcroft: "Mae o'n bwysig i fi bo' fi'n cael y cyfle i rannu ein profiadau - i drio helpu pobl symud ymlaen hefo gwahanol bethau."