'Pob lwc Wrecsam!' cyn gêm hollbwysig i'r Dreigiau

Cyn gêm hollbwysig i Glwb Pêl-droed Wrecsam ddydd Sadwrn, mae un o'r cyd-berchnogion, y seren Hollywood Rob McElhenney, wedi dymuno'n dda i'r tîm.

Mae Wrecsam yn herio Grimsby yn rownd gyn-derfynol y gemau ail-gyfle ar y Cae Ras ddydd Sadwrn.

Dywedodd McElhenney, sy'n berchen ar y clwb gyda'r actor Ryan Reynolds, wrth Newyddion S4C bod dyrchafiad yn bwysig, ond bod y clwb yn anelu ymhellach i fyny'r pyramid pêl-droed dros y blynyddoedd i ddod.

Gallwch chi weld y cyfweliad llawn ar Newyddion S4C nos Wener am 19:30.