'Bydd yn anhygoel os gallwn ni gyrraedd Cwpan y Byd'
Pum niwrnod sydd i fynd cyn gêm dyngedfennol olaf ymgyrch Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd.
Mae tîm Robert Page yn wynebu'r Alban neu Wcráin brynhawn Sul, gyda'r buddugwyr yn sicrhau lle yn Qatar ym mis Tachwedd.
Ond Gwlad Pwyl yw eu gwrthwynebwyr nesaf - yn eu gêm gyntaf, oddi cartref yn Wroclaw, yng Nghynghrair y Cenhedloedd brynhawn Mercher.
Mae'r capten, Gareth Bale, wedi ymuno â'r garfan yng Ngwlad Pwyl, a phe byddai'n chwarae, dyma fyddai ei gêm gyntaf mewn deufis.
Mae hi'n wythnos bwysig felly i'r tîm cenedlaethol ond mae'r ymosodwr Rubin Colwill yn pwysleisio'r angen i ganolbwyntio ar bob gêm yn ei thro.