'Fydd gweddill y byd eisiau i Wcráin ennill'

Wcráin fydd gwrthwynebwyr Cymru yn ffeinal y gemau ail gyfle i gyrraedd Cwpan y Byd Qatar 2022 wedi iddyn nhw drechu'r Alban nos Iau.

Dywedodd cyn-ymosodwr Cymru, Iwan Roberts eu bod yn haeddu "pob clod" am fynd i Barc Hampden ac ennill, yn enwedig o ystyried amgylchiadau'r misoedd diwethaf.

Ond mae'r golygon nawr yn troi at y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul, ble mae Roberts yn dweud fod Cymru'n dîm "anodd iawn i'w curo".

"Fydd gweddill y byd eisiau i Wcráin ennill, wrth gwrs, 'dan ni'n deall hynny," meddai.