Ymateb pobl o Gymru i bleidlais o hyder Boris Johnson

Ar ôl i 59% o aelodau'r Blaid Geidwadol yn San Steffan daro pleidlais o hyder yn Boris Johnson nos Lun, mae'r blaid a barn pobl ar lawr gwlad yn rhanedig.

Fe wnaeth Mr Johnson ennill y bleidlais o hyder yn ei arweinyddiaeth o 211 i 148.

Wedi'r bleidlais, dywedodd Mr Johnson fod y canlyniad yn un "eithriadol o dda, yn un terfynol a phendant" sy'n caniatáu'r blaid i "symud 'mlaen".

Ond, mae rhai gwleidyddion a phobl ar lawr gwlad yn cwestiynu ei awdurdod ac yn credu y dylai ymddiswyddo.

Mae'r farn ar y strydoedd yn Llanfair Caereinion a Gaerwen yn amrywiol.