Fydd y milwyr fu farw ar y Sir Galahad 'fyth' yn angof.

Mae'n union ddeugain mlynedd ers yr ymosodiad ar long y Sir Galahad yn Rhyfel y Falklands - ymosodiad a laddodd dros 30 o aelodau'r Gwarchodlu Cymreig.

Hwn oedd yr ymosodiad gwaetha' ar luoedd Prydain yn ystod y rhyfel a'r un mwyaf dinistriol ers yr Ail Ryfel Byd.

Dywed tri milwr a oedd yno y diwrnod hwnnw y bydd erllychtra eu profiadau yn aros gyda nhw am byth.