Llwyddiant busnesau Cymry Cymraeg 'yn rheswm i ddathlu'
Mae Alun Jones wedi gweld llawer o newid yn ystod 30 mlynedd o weithio i'r corff Menter a Busnes, sy'n helpu pobl ar draws Cymru i sefydlu, rhedeg a datblygu busnesau.
Pan ymunodd â'r cwmni annibynnol nid-er-elw yn 1992, mae'n cofio "rhyw bedwar i bump ohonom ni mewn un ystafell".
Ag yntau nawr yn gadael, 20 mlynedd wedi ei benodiad fel ei brif weithredwr, mae'r cwmni sydd â swyddfeydd yn Aberystwyth, Bangor, Meifod, Llanelwy, Caerdydd a Chaerfyrddin yn cyflogi 145 o staff, a 50 o weithwyr llawrydd.
"Dwi'n credu mai'r fraint fwyaf mae unrhyw gyflogwr yn cael ydy gallu cynnig gwaith i rywun arall," meddai ar raglen Dros Frecwast.
"Dros y blynyddoedd, 'dan ni wedi llwyddo i gynnig swyddi i bobl, i raddedigion ifanc falle fydde wedi gorfod gadael eu hardaloedd cynhenid fel arall."
Mae'n gadael y swydd ar gyfnod heriol i economi'r DU, yn sgil heriau fel yr argyfwng costau byw, cynnydd ym mhrisiau nwyddau a thrafferthion ôl-Brexit fel diffyg staff tymhorol.
"Mae'r economi'n newid trwy'r amser, mae anghenion busnesau'n newid a ninna' fel cwmni'n gorfod addasu efo hynny," meddai.
Mae Mr Jones yn falch o'r cynnydd dros y blynyddoedd yn nefnydd y Gymraeg o fewn busnesau, ac o fewn Menter a Busnes ei hun.
"Mae 95% o'n staff ni yn ddwyieithog a 'dan ni'n trio dangos manteision o weithredu'n ddwyieithog i fusnesa' er'ill," dywedodd.
Mae'r holl fusnesau annibynnol sydd wedi ffynnu dros y blynyddoedd yn destun balchder, meddai, wrth gael ei holi gan Kate Crockett.