'Rhaid goresgyn heriau darparu cinio am ddim'

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y rhan fwyaf o blant dosbarth derbyn yn cael prydau ysgol am ddim o fis Medi ymlaen.

Yn sgil yr argyfwng costau byw mae gweinidogion yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau fod pob plentyn cynradd yn cael cinio am ddim cyn gynted â phosib.

Mae cyfanswm o £225m wedi'i neilltuo dros y tair blynedd nesaf.

Bydd y 22 awdurdod yn dechrau derbyn y cyllid ychwanegol o fis Medi ymlaen ond mae yna bryderon nad oes gan rai ysgolion ddigon o staff, offer a lle i weithredu yr addewid.

Dywed Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, bod y llywodraeth yn gweithio gydag awdurdodau i oresgyn yr heriau hynny.