'Amarch pur' at yr iaith drwy newid enw tŷ gwyliau Môn
Mae penderfyniad cwmni tai i roi enw Saesneg ar dŷ gwyliau yn un o'u datblygiadau ar Ynys Môn yn amlygu diffyg parch ac yn "creu rhwyg diangen", yn ôl arweinydd y cyngor sir.
Roedd Llinos Medi yn ymateb wedi i gwmni Anglesey Homes farchnata rhif 9 Gwel-yr-Wyddfa, ym mhentref Llanfaelog, fel 9 Sandy Retreat.
Mae'r cwmni'n mynnu nad ydyn nhw wedi mynd yn groes i reolau, gan eu bod ond wedi newid enw un tŷ yn hytrach na'r datblygiad cyfan.