'Sialens dda' herio Seland Newydd yn Sbaen

Bydd Cymru yn wynebu Seland Newydd mewn gêm gyfeillgar ar ddydd Mawrth 28 Mehefin yn Pinatar yn Sbaen.

Dyma'r eildro i garfan Gemma Grainger deithio i dde-ddwyrain Sbaen eleni ar ôl cymryd rhan yng nghystadleuaeth Cwpan Pinatar 2022 ym mis Chwefror.

Mae Seland Newydd yn 22ain yn netholion y byd, ac fe fydd y wlad yn cynnal Cwpan y Byd Merched gydag Awstralia y flwyddyn nesaf.

Mae Cymru yn ail yn eu grŵp rhagbrofol i gyrraedd y gystadleuaeth, gyda dwy gêm allweddol i fynd yn erbyn Groeg a Slofenia er mwyn cyrraedd y gemau ail-gyfle.

Dywed Carrie Jones, un o'r chwaraewyr ei bod yn edrych ymlaen ond bydd "hi'n bach o sialens" yn y tywydd poeth yn Sbaen.

Bydd y gêm i'w gweld yn fyw ar Cymru Fyw.