Cymru v De Affrica am fod yn 'gyffrous a chorfforol'

Mae tîm hyfforddi Cymru'n dweud fod y garfan gyfan ar gael i herio De Affrica y penwythnos hwn yng ngêm agoriadol eu taith dramor gyntaf am bedair blynedd.

Bydd y prawf cyntaf yn Pretoria ddydd Sadwrn, 2 Gorffennaf, yna'r ail ar 9 Gorffennaf yn Bloemfontein, cyn y prawf olaf yn Cape Town ar 16 Gorffennaf.

Yn siarad â'r wasg ddydd Llun dywedodd hyfforddwr ymosod Cymru, Stephen Jones fod yn rhaid i'r tîm "fod yn glyfar yn ffordd ni'n chwarae".

"Mae'n mynd i fod yn gyffrous, mae'n mynd i fod yn gorfforol, ond mae carfan hyderus 'da ni," meddai.