'Hen bryd' ymateb i'r argyfwng ail dai
Bydd gan gynghorau Cymru y pŵer i reoli niferoedd ail gartrefi a thai gwyliau yn sgil cynlluniau newydd gan y llywodraeth.
Mae strategaeth drwyddedu ar gyfer pobl sydd eisiau rhedeg tai gwyliau byr-dymor hefyd ar y gweill.
Cafodd y cynllun ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng y blaid â Llafur Cymru.
Y farn ym Mhwllheli oedd ei bod hi'n "hen bryd" ymateb i'r argyfwng a bod angen gwarchod cymunedau lleol.