Etholwyr yn dibynnu ar y Ceidwadwyr i 'dyfu asgwrn cefn'

Wrth i'r pwysau ar Boris Johnson gynyddu yn sgil ymddiswyddiadau yn ei lywodraeth, mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yn dweud bod y gwrthbleidiau a'r cyhoedd yn aros i'r Blaid Geidwadol "dyfu asgwrn cefn".

Mae grŵp o weinidogion cabinet wedi dweud wrth y Prif Weinidog i ymddiswyddo, gan gynnwys Ysgrifennydd Cymru Simon Hart, mae'r BBC yn deall.

Ond y gred yw bod Mr Johnson yn gwrthod ymddiswyddo nos Fercher, a'i fod yn cyfeirio at y gefnogaeth a gafodd gan etholwyr yn 2019.

Dywedodd Liz Saville Roberts bod y mandad yna gan etholwyr wedi dod ymhell cyn y sgandalau sydd wedi achosi trafferthion Rhif 10.