Siocled: Costau cynyddol yn ergyd i gynhyrchwyr
Mae creu cynnyrch fforddiadwy yn "anodd iawn", medd cynhyrchydd siocled o Gymru, oherwydd y cynnydd diweddar mewn costau.
Yn ôl cwmni siocled o Hwlffordd yn Sir Benfro, chwerwfelys yw creu siocled ar hyn o bryd oherwydd y costau cynyddol sy'n eu hwynebu.
Yn rhedeg ei busnes ers wyth mlynedd, dywedodd Karen Owen, cyd-gyfarwyddwr Wickedly Welsh Chocolate Company, bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn "frawychus".
Gyda'u bariau siocled moethus yn arfer costio £3.99, mae'r cwmni bellach wedi codi'r pris i £4.25, cynnydd o ryw 5%.