Eluned Morgan: 'Clir' bod ni ddim eto ar frig ton Covid
Fe ddylai pobl ymddwyn "fel ar ddechrau'r pandemig" trwy wisgo mwgwd, golchi dwylo ac aros adref os yn profi'n bositif am Covid.
Dyna gyngor y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wrth ymateb i don arall "ddifrifol" o Covid-19.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd bod y don bresennol yn "achos pryder iddi" gan fod "tua 5% o'r boblogaeth wedi eu heintio".
Ychwanegodd bod tua 7% o staff y Gwasanaeth Iechyd yn methu gweithio oherwydd salwch hefyd.