'Pwysig i blant bach ddathlu hanes pobl ddu'
Mae Mudiad Meithrin yn gobeithio bydd ei adnoddau newydd, 'Cymru Ni', yn sbarduno sgyrsiau am hanes pobl ddu ac aml-ddiwylliannedd yng Nghymru gyda phlant y blynyddoedd cynnar.
Yn ôl Emily Pemberton, sef awdur yr adnoddau newydd yma, mae yna "fwlch" o ran hanes pobl ddu ym meithrinfeydd ac ysgolion Cymru.
Dywedodd Ms Pemberton wrth BBC Cymru Fyw: "Da ni'n meddwl fod hi'n bwysig i blant bach fod yn ymwybodol o hanes pobl ddu, a nid yn unig bod yn ymwybodol ohono fe ond ei ddathlu."
Ei gobaith yw i'r adnoddau, fydd yn adrodd straeon pobl a digwyddiadau dylanwadol yn hanes Cymru, "roi hyder i ymarferwyr, gofalwyr a rhieni drafod yr hanes hynny gyda phlant bach".