Y teulu sydd wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio'r car
Fe roddodd teulu Harling-Hodges o Gaerdydd y gorau i ddefnyddio eu car dros flwyddyn yn ôl.
Trwy deithio i'r gwaith a'r ysgol ar feic, waeth beth fo'r tywydd, maen nhw'n arbed hyd at £400 y mis.
Yn ogystal â'r manteision ariannol, mae Simon Harling yn dweud bod y cam wedi caniatáu iddo gysylltu'n well â'i blant.
"Mae'n anodd gweld pam y bydden ni'n gwneud pethau unrhyw ffordd arall nawr," meddai.
Felly fel teulu prysur o bedwar, sut wnaethon nhw newid o betrol i bedal?