Joe Allen: 'Teimlad gwych bod nôl gartref' yn Abertawe

Mae Joe Allen yn dweud ei fod wedi dychwelyd "gartref" ar ôl ailymuno ag Abertawe yn gynharach yn y mis.

Mae hi'n 10 mlynedd ers i Allen, 32, adael Abertawe wedi 150 o gemau i'r tîm cyntaf i ymuno â Lerpwl am ffi o £15m.

Heledd Anna o Chwaraeon BBC Cymru fu'n ei holi am ei obeithion am y tymor - ac am Gwpan y Byd yn Qatar.