Sesiwn Fawr yn dathlu'r 30: Sut mae Dolgellau yn paratoi?

Mae'n benwythnos Sesiwn Fawr Dolgellau - un o brif ddigwyddiadau'r calendr cerddorol yng Nghymru a thu hwnt.

Eleni mae'r Sesiwn Fawr yn 30 oed.

Ers y cychwyn mae'r Sesiwn Fawr wedi denu nifer fawr o artistiaid adnabyddus ac wedi addasu o fod yn ŵyl am ddim ar strydoedd ac yn nhafarndai'r dref i ŵyl gyda thocynnau ar Y Marian a sesiynau bychain mewn lleoliadau eraill yn y dref.

Ymhlith yr artistiaid eleni mae Yws Gwynedd, y Welsh Whisperer a Candelas ac mae yna hen baratoi wedi i'r ŵyl fod yn ddigidol yn sgil Covid.