Annog pobl cefn gwlad i rannu baich ar ôl colli mab

"Oes ma isio codi'r ymwybyddiaeth 'ma bod rhaid siarad - ond mae isio hefyd codi ymwybyddiaeth be' ydy salwch meddwl, a sut mae pobl i fod i ymateb pan mae rhywun yn agored."

Ar drothwy'r Sioe Fawr, mae Bethan Llwyd Jones yn annog pobl cefn gwlad i rannu baich wedi i'w mab farw drwy hunanladdiad.

Bu farw Twm Bryn ym mis Hydref 2021.

"Mi oedd Twm yn chwilio am bethau i 'neud, mi oedd gynno fo ryw brosiect bach ar y gweill o hyd," medd Ms Jones.

"Ac yn sbïo 'nôl, mae rhywun yn gallu gweld dydi, 'na dyna be' o'dd o'n trio 'neud, trio helpu ei hun."

Mae Ms Jones yn galw i bobl siarad yn fwy agored am eu problemau - yn enwedig pobl byd amaeth.

Mae manylion am gymorth ar wefan Action Line y BBC.

Gellir clywed mwy ar y stori hon yn rhifyn ddydd Sul, 17 Gorffennaf o Bwrw Golwg ac yna ar BBC Sounds.