'Hollbwysig cael mewnbwn y genhedlaeth iau'
Mae Jâms Morgan, o ardal Llandre ger Aberystwyth, yn ffermio mewn partneriaeth gyda'i deulu.
Ond wrth i'r diwydiant geisio denu gwaed newydd a newid delwedd - gyda chyfran y ffermwyr dan 45 oed wedi disgyn i lai na 10% - mae Jâms yn credu bod lle i edrych ar syniadau'r genhedlaeth nesaf.
Yn siarad o faes y Sioe Frenhinol ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd: "Ni sydd am fynd mla'n a gwneud pethe yn y dyfodol a byw gyda'r penderfyniade' maen nhw'n ei wneud rŵan.
"Mae'n hollol bwysig fod pobl ifanc yn gallu dweud beth sy'n bwysig i nhw a helpu rhoi policies mla'n yn y dyfodol."