Apiau canlyn: 'Mae gan bob merch stori erchyll'
Mae cadw menywod yn ddiogel bellach wrth galon ap canlyn mwyaf y byd - Tinder - yn ôl eu prif swyddog gweithredol benywaidd cyntaf, Renate Nyborg.
Bydd Tinder hefyd yn sefydlu partneriaeth newydd ag elusen trais domestig No More.
Mae'r fodel Alaw Haf Pritchard o'r Wyddgrug, sydd wedi cael profiadau annymunol drwy ddefnyddio apiau o'r fath, yn croesawu'r newyddion ond yn dweud fod mwy i'w wneud eto.
"Dwi'm yn deall pam doedd o ddim yn un o'r pethau pwysicaf pan 'naethon nhw ddechrau'r ap," meddai ar Dros Frecwast fore Gwener.