'Methu coelio mod i ar y podiwm gyda'r genod yna'
Llwyddodd Medi Harris i sicrhau'r fedal efydd i Gymru yng nghystadleuaeth y 100m dull cefn yn ystod Gemau'r Gymanwlad ddydd Sul.
Y fenyw 19 oed o Borthmadog oedd yr ail Gymraes i weld llwyddiant yn y pwll nofio wedi i Lily Rice hefyd sicrhau medal efydd.
Dywedodd Medi, sy'n astudio ac yn nofio i Brifysgol Abertawe: "Dwi'n methu disgrifio fo, os 'sa chi 'di dweud wrtha'i flwyddyn yn ôl fyswn yma, fyswn methu colio mod i ar y podiwm gyda'r genod yna.
"Da chi methu gofyn am atmosphere gwell gan bobl Cymru, yn enwedig adra ym Mhorthmadog."