Esyllt Maelor yn ennill y Goron: 'Does gen i ddim geiriau'
Mae Esyllt Maelor yn dweud ei bod yn "syfrdan" ar ôl ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.
Daeth y bardd o Forfa Nefyn - gyda'r ffugenw 'Samiwel' - i'r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 24 o geisiadau.
"Does gen i ddim geiriau," meddai wrth BBC Cymru. "Do'n i ddim yn disgwyl y ffasiwn ganmoliaeth [gan y beirniaid]."
Dywedodd ei bod wedi cael "andros o sioc" pan gafodd wybod gan un o drefnwyr yr Eisteddfod mai hi oedd yn fuddugol.
Gan fod gymaint o amser wedi mynd heibio cyn iddi gystadlu hefyd, fe ddywedodd ei bod wedi "anghofio" ei bod wedi anfon y cerddi i fewn.
Roedd y beirniaid - Cyril Jones, Glenys Mair Roberts a Gerwyn Wiliams - yn unfrydol mai Esyllt Maelor oedd yn fuddugol.