Aled Sion Davies: 'Dwi 'di ennill popeth'

Mae'r athletwr Aled Sion Davies wedi sicrhau pedwerydd medal aur Cymru yn y Gemau Gymanwlad.

Llwyddodd i ennill y cystadleuaeth taflu disgen F42-44/61-64 i ddynion gyda thafliad o 51.39m nos Fercher.

Roedd ei gyd-Gymro, Harrison Walsh hefyd yn drydydd gan sicrhau'r fedal efydd.