Ioan Croft yn gwireddu 'breuddwyd' gyda medal aur Gemau'r Gymanwlad

Fe enillodd Ioan Croft o Grymych fedal aur yn y bocsio yng Ngemau'r Gymanwlad nos Sul.

Roedd yn cystadlu yn rownd derfynol y categori pwysau welter 63.5-67kg.

Fe enillodd ei efaill, Garan, fedal efydd ddydd Sadwrn.

Dywedodd Ioan wrth BBC Cymru ei fod wedi "gwireddu breuddwyd".