Canlyniadau Safon Uwch yn 'galonogol' - Jeremy Miles

Mae'r Gweinidog Addysg Jeremy Miles yn dweud bod y canlyniadau Safon Uwch eleni yn "galonogol" a'r system yn deg.

Er gwaethaf y ffaith i lai o bobl dderbyn graddau uwch, dywedodd Mr Miles mai "dyna oedd y disgwyl".

Eleni oedd y tro cyntaf ers 2019 i ddisgyblion sefyll arholiadau gydag athrawon yn pennu'r graddau yn 2020 a 2021.

Er mai dyma oedd y tro cyntaf i rai sefyll arholiadau, a hynny pan oedd Covid yn dal i achosi lefelau uwch o absenoldeb, fe ychwanegodd Mr Miles fod y system o arholi "yn deg" ac yr oedd adnoddau ychwanegol ar gael.