Melanie Owen: 'Pobl hiliol Cymru yn fwy uchel eu cloch'

Mae'r person du cyntaf i ddod yn weinidog cabinet yn unrhyw un o lywodraethau datganoledig y DU wedi dweud bod Cymru wedi "cymryd camau'n ôl yn ystod y degawd neu ddwy ddiwethaf" ar hiliaeth.

"Rydyn ni mewn lle gwell nag oedden ni yn y 70au a'r 80au heb os," meddai Vaughan Gething wrth bodlediad Walescast BBC Cymru.

Anghytuno gyda'r sylwadau am "gymryd camau'n ôl" mae'r sylwebydd a'r colofnydd Melanie Owen, gan ddweud mai'r hyn sydd wedi newid yw bod "pobl hiliol yn fwy uchel eu cloch".

Ychwanegodd, wrth siarad ar Dros Frecwast, bod hynny oherwydd fod pethau wedi "datblygu yn gyflym" o ran cydraddoldeb hiliol yng Nghymru.

"O'm mhrofiad i, dwi 'di cael mwy o hiliaeth yn fy wyneb i dros y flwyddyn ddiwetha' nag ydw i erioed wedi cael o'r blaen yn fy mywyd."

Dywedodd fod rhywun wedi galw enwau hiliol arni mewn archfarchnad ym Mhen-y-bont yn ddiweddar ac yng nghanol tref Caernarfon.

"Fyse hwnna ddim wedi digwydd o'r blaen, fyse micro-agressions wedi digwydd mwy, ond fyse pobl ddim mor grac am y datblygiadau pan mae'n dod i gydraddoldeb," ychwanegodd.

"Felly mewn ffordd, o leia mae'n dangos i ni pwy sy'n hiliol a profi bod rhaid i ni newid, ond ar yr un adeg, fel Cymry, dwi yn meddwl ein bod ni wedi datblygu mor glou a dwi'n falch iawn o hynny hefyd."