'Dydy telerau'r Post Brenhinol ddim yn foddhaol'
Mae miloedd o weithwyr y Post Brenhinol ar streic ddydd Gwener - yn cyntaf o bedair sydd wedi eu trefnu - yn sgil anghydfod dros eu tâl a newidiadau posib i'w hamodau gwaith.
Mae'n golygu na fydd neb yn derbyn llythyron ar ddiwrnodau'r gweithredu diwydiannol ac mae oedi'n debygol o ran dosbarthu parseli hefyd.
Dywed y Post Brenhinol bod cynrychiolwyr y gweithwyr, Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, wedi gwrthod cynnig o godiad cyflog "gwerth hyd at 5.5%".
Ond yn ôl Paul Jones, un o'r gweithwyr ar y linell biced ger is-swyddfa ddosbarthu Llanbedr Pont Steffan ben bore Gwener, dyw'r gweithwyr ddim yn rhagweld derbyn codiad mor uchel â hynny yn eu cyflogau.