Costau ynni: 'Pobl yn trio arbed ond does nunlle i fynd'
"Mae'r costau'n mynd i effeithio arnom ni mewn bob ffordd," medd perchennog bwyty yng Nghaernarfon.
Daw ei sylwadau wedi i Ofgem gyhoeddi y bydd y cap ar brisiau ynni yn cynyddu 80% ym mis Hydref.
Mae'r cynnydd i gostau byw eisoes yn effeithio ar ei fusnes, medd perchennog y Crochan Chris Summers, ac mae'n disgwyl gweld effaith pellach yn ystod yr hydref.
Hefyd yn bryderus mae'r Parchedig Mererid Mair, gweinidog capel Salem yng Nghaernarfon ac sydd hefyd yn weithiwr cymunedol yn Eglwys Noddfa Caernarfon..
"Mae pobl 'di cyrraedd y pen - maen nhw'n trio arbed ynni, yn trio gwario llai... ond mae costau bwyd 'di cynyddu, chwyddiant 'di codi, a does 'na nunlle i fynd erbyn 'wan."