Beth yw'r cap ar brisiau ynni a sut mae'n gweithio?
Ddydd Gwener fe wnaeth Ofgem gyhoeddi y bydd y cap ar brisiau ynni yn cynyddu 80% ym mis Hydref.
Mae hynny'n golygu y bydd pris cyfartalog biliau ynni yn cyrraedd £3,549 - ar hyn o bryd, y pris cyfartalog yw £1,971.
Ond beth yn union mae hyn yn ei olygu? Dyma Maia o dîm BBC Cymru Fyw yn esbonio cyhoeddiad diweddaraf Ofgem.