Tân mewn bwyty ger pier Y Mwmbwls

Fe fydd pier Y Mwmbwls ger Abertawe ar gau am gyfnod wedi i dân gynnau mewn tŷ bwyta cyfagos.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r adeilad wedi i'r tân gynnau am 11:10 fore Mercher, ac mae saith injan dân wedi bod yn ceisio rheoli'r fflamau a'r mwg trwchus.

Does dim adroddiadau o anafiadau ond mae'n debyg bod cryn ddifrod i adeiladau. Mae rhybudd wedi cael ei roi i drigolion gerllaw i gau ffenestri a drysau o ganlyniad i'r mwg.

Fe ddechreuodd y tân yn nhŷ bwyta'r Copperfish - tu ôl i adeilad yr arcêd sydd drws nesaf i'r pier.