Carrie Jones: 'Byddai cyrraedd Cwpan y Byd yn freuddwyd'

Mae tîm merched Cymru wedi cyrraedd gemau ail gyfle Cwpan y Byd am y tro cyntaf erioed, a hynny yn dilyn gêm gyfartal llawn tensiwn yn erbyn Slofenia nos Fawrth.

Mae'n golygu mai Cymru sy'n gorffen yn ail yn y grŵp y tu ôl i Ffrainc - pumed tîm gorau'r byd, yn ôl rhestr detholion FIFA, a'r unig dîm i'w trechu nhw yn ystod yr ymgyrch.

Dywedodd Carrie Jones - seren y gêm nos Fawrth - ei bod yn "hapus, hapus iawn" ond bod 'na "fwy i ddod".

Bydd y merched nawr yn wynebu o leiaf dwy gêm ail gyfle fis nesaf i geisio cyrraedd y twrnament yn Awstralia a Seland Newydd y flwyddyn nesaf.