Teuluoedd 'mewn limbo' dros brisiau ynni
I Bridget Harpwood o Lanilar yng Ngheredigion, mae cadw ei thŷ yn gynnes yn hanfodol, er mwyn iechyd ei merch, Elain, sydd â chyflwr prin ar y galon.
Mae ei bil am ynni eisoes wedi cynyddu £100 bob mis, a gyda disgwyl i'r cap ar bris ynni gynyddu eto, codi fydd biliau'r teulu.
Yn dilyn cyfnod anodd y pandemig, mae'n dweud bod teuluoedd fel nhw "mewn limbo" wrth aros i weld beth sy'n digwydd gyda phrisiau ynni.