Creu côr ward ganser Ysbyty Gwynedd 'wedi cyfnod unig'
Mae'n fwriad sefydlu côr newydd i gleifion, ffrindiau a staff ward ganser Ysbyty Gwynedd.
Fe ddaeth y syniad, medd y nyrs Sioned Lewis, wedi i gôr o ferched oedd â chanser y fron berfformio ar un o raglenni Rhys Meirion dair blynedd yn ôl.
Ond ers hynny mae wedi bod yn amser unig i gleifion yn sgil Covid, medd y matron Sara Hardy Roberts, ac "os yw pobl sy'n dod i'r côr ond yn 'neud un ffrind mi fydd yn 'neud gwahaniaeth pan fyddan nhw'n dod am driniaeth".
"Byddan nhw'n teimlo'n saffach, 'nabod y staff yn well ac yn gwybod bod pobl yn yr un sefyllfa."
"Mae canser yn effeithio ar bawb - ac mae'n brilliant o idea dod â phawb at ei gilydd i gymdeithasu - yn enwedig ar ôl Covid, mae wedi bod yn gyfnod unig iawn i bobl," ychwanegodd y brif nyrs Jen Owen Williams.
Mae'r côr wedi derbyn nawdd gan elusen Awyr Las ac fe fyddant yn cwrdd am y tro cyntaf yng Nghapel Berea Newydd ym Mhenrhosgarnedd ar 29 Medi am 18:30.
Mae'r trefnwyr yn pwysleisio nad oes rhaid bod â'r gallu i ganu ac mai cymdeithasu a rhannu profiad yw'r prif nod.