'Dawn o fod yn ffurfiol ac anffurfiol' gan y Frenhines

Wrth baratoi i fod yn un o'r nifer fydd yn derbyn corff y Frenhines Elizabeth II yn swyddogol i Neuadd Westmister ddydd Mercher, mae'r cyn-Dwrnai Cyffredinol yr Arglwydd John Morris wedi bod yn hel atgofion amdani.

Fe gwrddodd â'r Frenhines sawl gwaith, yn enwedig pan y byddai'n ymweld â Chymru.

Dywedodd bod ganddi'r ddawn o fod yn "ffurfiol ac anffurfiol".

Wrth gofio am un sgwrs benodol ar daith awyren o Gaernarfon i Lundain, ychwanegodd yr Arglwydd Morris bod "ganddi ddiddordeb byw yn beth oedd yn digwydd o'i chwmpas".